Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

NAFWC 2011 (Papur 3)
Portffolios Comisiwn y Cynulliad

 

Dyddiad:     16 Mehefin 2011
Amser:        13.00
Lleoliad:      Ystafell Bwyllgora 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Claire Clancy, estyniad 8233

Portffolios Comisiwn y Cynulliad

1.0    Diben a chrynodeb o faterion

1.1    Mae’r Comisiwn yn gyfrifol yn gorfforaethol am gyflawni’r swyddogaethau a drosglwyddwyd iddo ac am lywodraethu’r sefydliad. Yn ystod y Trydydd Cynulliad, roedd pob Comisiynydd yn gyfrifol am bortffolio o wasanaethau.

2.0    Argymhellion

2.1    Gofynnir i’r Comisiwn gytuno ar bortffolios ar gyfer pob Comisiynydd.

3.0    Trafodaeth

3.1    Mae’r Comisiynwyr yn gyfrifol yn gorfforaethol am gyflawni’r swyddogaethau a roddir i’r Comisiwn ac am lywodraethu’r sefydliad ac, yn hynny o beth, am weithredu er budd y Cynulliad cyfan.

3.2    Yn ystod y Trydydd Cynulliad, cafodd cyfrifoldebau’r Cynulliad eu rhannu’n bortffolios ar wahân. Roedd gan pob Comisiynydd ddiddordeb arbennig mewn rhan o waith y Comisiwn. Rhoddodd hyn gyfle i’r Comisiynwyr ddatblygu dealltwriaeth o feysydd arbennig a gweithio gyda swyddogion i ddarparu cyfeiriad strategol mwy trylwyr a chyson nag y mae cyfarfodydd y Comisiwn yn unig yn ei ganiatáu.

3.3    Mae’r portffolios drafft sydd ynghlwm yn Atodiad A yn cydweddu’n rhannol â’r strwythurau ar gyfer darparu gwasanaethau i Weinidogion, ond maent hefyd yn cael eu cydbwyso i sicrhau y cânt eu dosbarthu’n rhesymol rhwng y Comisiynwyr. Mae hyn yn adlewyrchu’r profiad o waith portffolio yn ystod y Trydydd Cynulliad. Bydd swyddog uwch hefyd yn gweithio ar bob portffolio fel cysylltiad allweddol rhwng y Comisiynydd a’r maes gwasanaeth. 

3.4    Er nad yw’r Dirprwy Lywydd yn aelod o’r Comisiwn, mae’r Llywydd wedi gofyn iddo fynychu’r cyfarfodydd. Mae nodi materion o ddiddordeb iddo ganolbwyntio arnynt yn cyd-fynd â’i ddyletswyddau eraill fel Dirprwy Lywydd ac yn cynorthwyo portffolios y Comisiynwyr. Mae’r materion a allai fod o ddiddordeb yn cynnwys busnes y Cynulliad, adeilad y Pierhead fel canolfan datblygu a thrafod y Cynulliad a meithrin cysylltiadau â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a chyrff eraill sy’n berthnasol i’w rôl. Adrian Crompton fyddai’r prif swyddog ar gyfer y dibenion hyn.